Newyddion

‘Cwrdd cyflym’ i ddarpar gynhyrchwyr bwyd

 

Gallai digwyddiad ‘cwrdd cyflym’ ar gyfer cynhyrchwyr bwyd arwain at gydweithio delfrydol, yn ôl cefnogwyr Canolfan Fwyd Cymru newydd Bodnant. Gwahoddir darpar gyflenwyr bwyd lleol i roi cyflwyniadau yng Nglasdir, Llanrwst ar ddydd Mawrth a dydd Mercher Ionawr 24-35. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr Sandy Boyd a’i dîm yn awyddus i ddenu cyflenwyr ar gyfer y ganolfan newydd yn Fferm Ffwrnes, Eglwysbach. Bydd y prosiect £6m, y mae disgwyl iddi agor yn y gwanwyn, yn arddangos y cynnyrch gorau o Gymru yn ei siop fferm, ystafell de, bwyty a phopty. “Dylai cynhyrchwyr yng Nghymru weld y digwyddiad cyflenwyr hwn yn gyfle gwych”, meddai Alwen Eidda, rheolydd datblygu yn y trefnwyr digwyddiadau Cywain. 
Y disgwyl yw y bydd tîm o 50 o staff yn cael eu cyflogi unwaith y mae’r ganolfan ar agor. Gan fod niferoedd yn gyfyngedig, rhaid i gyflenwyr drefnu sesiwn yn nigwyddiad yr wythnos nesaf trwy gysylltu ag Alwen Eidda erbyn 3pm, dydd Llun, Ionawr 23. Er mwyn cofrestru, e-bostiwch alwen.eidda@menerabusnes.co.uk <mailto:alwen.eidda@menterabusnes.co.uk> neu ffoniwch 01248 672606.
 

Latest Tweets by the Fork2Fork Team

Find us on Facebook