Beth yw pwrpas y wefan?
Bwriad gwefan Fforch-i-Fforc yw rhoi’r diweddaraf ichi am fanteision prynu bwyd ffres, uniongyrchol a lleol, ichi a’ch teulu. Rydym eisiau cadw pethau’n syml – hoffech chi brynu bwyd ffres lleol yn uniongyrchol? Os felly, mae ein gwefan yn ceisio rhoi enghreifftiau ichi o ble gallwch brynu yn ogystal â pham dylech brynu’n uniongyrchol a lleol.
Mae’r wefan hon yn llawn gwybodaeth, o gyfeiriadur o gysylltiadau eraill lle gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth bwyd (ewch i Canfod Bwyd) i fap rhyngweithiol (ewch i Digwyddiadau) yn dangos lleoliad marchnadoedd ffermwyr, gwyliau bwyd a llawer, llawer mwy.
Pwy yw’r cynhyrchwyr go iawn y mae’r ymgyrch yn sôn amdanyn nhw? Mae ein tudalennau Astudiaethau Enghreifftiol yn adrodd y storïau tu ôl i’r llenni am ddod â’r bwyd a diod gorau ichi, pam ddechreuon nhw eu busnesau, yr hyn a’u hysbrydolodd a’u gobeithion i’r dyfodol.
Mae ymgyrch Fforch-i-Fforc – Bwyd Blasus Gan Bobl Iawn yn ymwneud llawn cymaint â dangos ichi’r bobl go iawn sy’n cynhyrchu’r cynnyrch sy’n ymddangos ar eich bwrdd ag y mae ag amlygu’r rhesymau eraill pam mai prynu bwyd ffres, uniongyrchol a lleol yw’r dewis gorau bob tro.
*************************************
Beth yw ymgyrch Fforch-i-Fforc?
Mae ymgyrch Fforch-i-Fforc yn ymgyrch wybodaeth a chodi ymwybyddiaeth dwy flynedd i annog pobl i brynu’n uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwyr. Mae cyfleoedd o bob math i brynu’n uniongyrchol, boed o farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm, cynlluniau blychau, ar-lein, gwyliau bwyd ac wrth gwrs o gât y fferm ei hun.
*************************************
Pwy sy’n ei rhedeg?
Mae ymgyrch Fforch-i-Fforc yn cael ei chyfarwyddo gan FBA, cwmni cysylltiadau cyhoeddus, dylunio a materion cyhoeddus arobryn o Aberystwyth. Rhoddwyd y prosiect i FBA oherwydd ein harbenigedd arobryn yn brandio bwyd o Gymru a chysylltiadau cyhoeddus, a’n profiad dros gyfnod o 20 mlynedd o weithio gyda rhai o frandiau bwyd amlycaf Cymru, gan gynnwys Rachel’s Organics, Halen Môn, Edwards o Gonwy. Enillodd y cwmni nifer o wobrau Dylunio a chysylltiadau cyhoeddus, gan gynnwys nifer o wobrau CIPR y Deyrnas Unedig, megis yr Aur am Ymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus Integredig orau yn 2009 a chylchgrawn cysylltiadau cyhoeddus a chylchlythyr cyffredinol gorau’r Deyrnas Unedig ar gyfer 2008. Bydd FBA yn cyfarwyddo ymgyrch fforchifforc tan ddiwedd mis Medi 2011. Mae mwy o wybodaeth am FBA ar gael yn www.fbagroup.co.uk
*************************************
Sut mae’r prosiect yn cael ei ariannu?
Mae ymgyrch Fforch-i-Fforc yn cael ei hariannu gan y cynllun Arbedion Cadwyni Cyflenwi (SCE) trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig.
*************************************
Sut ydw i’n cysylltu â’r ymgyrch?
Cliciwch fan hyn er mwyn cysylltu â ni
*************************************