Mae tim Fforch-i-Fforc yn falch o gyhoeddi fod yr ymgyrch wedi ei henwi ar restr fer gwobrau CIPR Pride Awards 2011. Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod rhagoriaeth ac yn gwobrwyo gorchest ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu. Mae’r ymgyrch wedi ei enwebu ar gyfer categori Digwyddiad Gorau’r Flwyddyn am y Gynhadledd Genedlaethol Gwerthiant Uniongyrchol a chafodd ei chynnal yn Arberth y llynedd ynghyd a categori Ymgyrch Cyfathrebu Cyfanol y flwyddyn. Mi fydd yr ennillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni gwobrwyo sydd i’w chynnal ar y 29ain o Hydref yn Gaerdydd - croesi bysedd y bydd gennym ni newyddion da i rannu gyda chi mis nesaf.