Cipiodd cynnyrch Sir Gaerfyrddin y goron i fyfyrwyr lletygarwch a chiniawa Coleg Sir Gâr pan gyhoeddwyd mai nhw yw enillwyr Gwobr y Sefydliad Lletygarwch Ciniawa mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghaerdydd (6ed Mehefin).
Cynhelir Gŵyl Fwyd Caerfyrddin am y tro cyntaf erioed yr haf eleni – ac rydym eisiau ichi, ein darllenwyr, fod yn rhan ohoni. Prif nod yr ŵyl, a gynhelir ar ddydd Mercher 27 Gorffennaf, yw cefnogi cynhyrchwyr lleol a rhoi cyfle iddynt hyrwyddo eu cynnyrch.
Bu AC Brycheiniog a Maesyfed, Kirsty Williams a’r Aelod Seneddol lleol, Roger Williams ym marchnad 10fed pen-blwydd marchnad ffermwyr Brycheiniog yn Aberhonddu (11.06.11) ac yn ystod eu hymweliad rhoesant eu cefnogaeth i brynu’n lleol ac uniongyrchol.