Gorffennaf 2011

Gŵyl Wyllt Go Iawn ddydd Gwener a dydd Sadwrn yma!

Cynhelir y 7fed Ŵyl Wyllt Go Iawn flynyddol ar Heol y Traeth Mawr, Tŷ Ddewi ar ddydd Gwener y 29ain a dydd Sadwrn y 30ain Gorffennaf, ac yn ôl y trefnwyr fe fydd yn ‘fwy gwyllt’ nac erioed!

Marchnad cynnyrch lleol newydd

Bydd marchnad ffermwyr newydd yn cael ei lansio ynghanol y brifddinas ar y 4ydd o Awst yng Nghornel y Castell – gan ddod â chynnyrch lleol i ganol y ddinas am y tro cyntaf.

Bydd y farchnad newydd, sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas Marchnad Ffermwyr Glanyrafon, yn cael ei chynnal bob bore dydd Iau rhwng 11am-3pm.

Gwyliau bwyd ymhobman

Dyma dymor y gwyliau bwyd! Gan fod y digwyddiadau llawn hwyl a thrysorau bwyd hyn yn digwydd ar hyd a lled y wlad, mae hwn yn well cyfle nac erioed i archwilio a darganfod beth sydd gan y digwyddiadau cymdeithasol gwych hyn i’w gynnig. Dyma rai o’r gwyliau bwyd sy’n digwydd dros y misoedd nesaf. Cofiwch fynd i'r adran digwyddiadau i ddod o hyd i fwy o ddigwyddiadau bwyd.

 

Caeau mefus am byth?

- Daily Post

Mae ymchwil diweddar wedi dangos fod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn credu y dylid gwneud mefus yn ffrwyth cenedlaethol. Mefus oedd dewis 53% o bobl Cymru, gan drechu afalau, a gafodd ond 15% o’r pleidleisiau, yn ôl ymchwil a wnaed gan fefus Sweet Eve.

Degawd o Lwyddiant i Gymdeithas Seidr Cymru

Y mis yma mae Cymdeithas Peri a Seidr Cymru yn dathlu degawd o lwyddiant ac mae’n trefnu parti’r penwythnos hwn i ddathlu ei phen-blwydd.

Ffurfiwyd y Gymdeithas, sy’n ceisio adfywio’r diwydiant peri a seidr yng Nghymru, gan Dave Matthews ac Alan Golding, selogion seidr oedd wedi dechrau gwneud rhywfaint o gynhyrchu seidr, yn 2001.

Gwerthu gwerthu anogir DVD newydd i gynhyrchwyr - Syniadau Slic

Mae DVD hyfforddiant newydd ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod yn cael ei lansio'r wythnos yma (Dydd Llun 18 o Orffennaf @ 1.30pm) ar faes Y Sioe Frenhinol, er mwyn gwella ei thechnegau a sgiliau gwerthu, gwellau elw, ac annog gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd pecynnu, gosodiad a labelu.

Bwyd bendigedig ar y fwydlen yn Sioe Frenhinol Cymru

Dim ond un lle sydd ar gyfer pobl sy'n hoff o fwyd da y mis hwn, sef Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Powys (18-21 Gorffennaf).

Agorwyd Neuadd Fwyd Maes y Sioe Frenhinol flwyddyn yn ôl a bydd yn llawn i'r ymylon o ddanteithion blasus eto eleni.

Lleoliadau palasaidd ar gyfer sioe deithio’r Gwir Flas

Bydd bwyd a diod o Gymru ar y fwydlen mewn nid un ond dau balas pan fydd Sioe Deithio Enillwyr Gwobr Cegin y Gwir Flas yn ymweld â dau o brif ddigwyddiadau haf Prydain – Sioe Flodau Palas Hampton Court a Ffair Gêm Cymdeithas Tirfeddianwyr Gwledig. Mae’r Sioe Deithio’r yn hyrwyddiad ar y cyd gan enillwyr Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas a Llywodraeth Cymru,sy’n trefnu’r gwobrau blynyddol.

Cynhyrchwyr Cymru yn Unol Daleithiau ar gyfer prif sioe fwyd Gogledd America

Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru’n paratoi i groesi’r Iwerydd ar gyfer The Summer Fancy Food Show, marchnadfa fwyd a diod arbenigol fwyaf Gogledd America.

Yn Efrog Newydd yr arferir cynnal y digwyddiad, ond eleni bydd yn y Walter E. Washington Convention Centre yn Washington DC, prifddinas yr UnolDaleithiau.

Beirniaid yn cnoi cil ar y rhestr derfynol ar gyfer gwobrau Gwir Flas

Maent wedi sipian, cnoi a chrensian eu ffordd drwy gannoedd o gynnyrch bwyd a diod Cymru, ac mae gwaith y beirniaid ar gyfer 10fed gwobrau blynyddol Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas bellach wedi’i wneud – a chaiff eu dewisiadau terfynol eu cadw’n hollol gyfrinachol am nawr.

Dim byd pigog am fwyd môr

- Daily Post

Bydd Bryan Webb, chef ym mwyty seren Michelin Tyddyn Llan yn Llandrillo, yn rhannu cyfrinachau coginio bwyd môr yng Ngwyl Bwyd Môr Aberaeron ddydd Sul.

Cynhelir yr wyl ar yr harbwr ac mae Bryan yn edrych ymlaen at gael gwared ag ambell fyth am goginio.

Lansio marchnad cynnyrch cartref

- Daily Post

Mae marchnad cynnyrch lleol ar fin agor yng Ngwynedd er mwyn ceisio lleihau milltiroedd bwyd a chael pobl i gefnogi cynnyrch lleol.

Cynhelir y farchnad ar Stryd Fawr Bethesda ar Orffennaf 9. Cynhelir y digwyddiad bob ail ddydd Sadwrn y mis.

Cyllid yn helpu pysgotwyr cymru

Cafodd diwydiant pysgota Cymru hwb gydag agoriad swyddogol canolbwynt ar gyfer trin, storio a marchnata pysgota ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin.

Ymwelodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd â’r Canolbwynt a gaiff ei redeg gan