Bydd Gŵyl Fwyd Cymru, sy’n denu cannoedd o gynhyrchwyr ac ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thros y ffin yn Swydd Amwythig, yn cael ei chynnal y mis nesaf.
Mae Gwyl Fwyd & Chrefftau’r Frenni wedi datblygu yn un o’r digwyddiadau pwysicaf yn y calendr lleol, ac eleni bydd yn dathlu ei degfed pen-blwydd mewn steil gyda choginio, cerddoriaeth a dawnsio traddodiadol o Ploveilh, gefaill bentref Crymych yn Llydaw.
Agorodd Cennin, bwyty newydd ym Miwmares yn gweini’r bwyd gorau, ei ddrysau ar ddydd Gwener 29 Gorffennaf ac roedd yn ddathliad dwbl i’w berchnogion, Brian a Ffiona Thomas oedd hefyd yn dathlu eu penblwyddi.
Maent wedi pasio’r prawf olaf ac mae’r aros yn awr bron ar ben ar gyfer yr ymgeiswyr ar restr fer blas 10fed Gwobrau Blynyddol Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas.
Mi fydd tîm Fforch-i-Fforc allan yn lledaenu negeseuon yr ymgyrch ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos yma yn Wrecsam. Os yr ydych am fynychu’r Eisteddfod dewch draw i ddweud helo wrth y tîm - rydym wedi ein lleoli ar stondin S133. Edrychwn ymlaen at eich croesawu (Dydd Sadwrn 30 Gorffenaf - Dydd Sadwrn 6 Awst).