Mae’r adran hon yn cynnwys dewis eang o gynhyrchwyr sy’n gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr mewn marchnadoedd ffermwyr, siopau fferm, ar-lein a thrwy gynlluniau blychau. Trwy brynu’n uniongyrchol, mae defnyddwyr yn gallu helpu sicrhau bod bwyd lleol, ffres yn cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy a sicrhau hyfywedd cynhyrchwyr a’u cymunedau.
Gwasgwch i ddarllen storïau cynhyrchwyr, gallwch ddod i’w hadnabod a gweld sut maen nhw’n cynhyrchu a beth sy’n eu hysbrydoli!
Gobeithiwn y bydd eu storïau yn eich ysbrydoli i chwilio am gynhyrchwyr lleol a phrynu’n uniongyrchol oddi wrthynt.
**************************
Mae Fforch-i-Fforc hefyd yn ceisio annog mwy o gynhyrchwyr i ddysgu o’r arfer gorau ac astudiaethau enghreifftiol a gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Os ydych yn gynhyrchwr bwyd, yn drefnydd marchnad ffermwyr, yn gydlynydd cynllun blychau neu’n berchennog siop fferm ac os hoffech gael eich cynnwys yn astudiaethau enghreifftiol Fforch-i-Fforc, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych. Gwasgwch yma a llanwch y ffurflen cysylltu â ni ar gyfer astudiaethau enghreifftiol a danfonwch eich stori atom!