Bydd mwy nac erioed o ffermdai yn y Gogledd yn cynnal brecwastau codi arian eleni wrth i’r diwydiant annog pobl i ddweud “Bore da i Fwyd o Gymru.” Bydd brecwastau’n cael eu cynnal ar chwe fferm ac un arall yng nghaffi Marchnad Bryncir yn Sir Gaernarfon, ac mae tair fferm arall yn cymryd rhan yn Sir Ddinbych. Mae’r digwyddiadau’n rhan o Wythnos Brecwast Ffermdai, ymgyrch flynyddol a drefnir gan yr Awdurdod Grawnfwydydd Cartref. Cafodd ei mabwysiadu’n frwdfrydig gan Undeb Amaethwyr Cymru, sy’n gweld yr ymgyrch yn “gyfle euraid” i hyrwyddo bwyd o Gymru.