Gwahoddir gwyliau bwyd Cymru i wneud cais am gyllid grant gan Lywodraeth Cymru.
Bob blwyddyn mae gwyliau bwyd yng Nghymru yn cyfrannu miliynau o bunnau i'r economi drwy ddenu ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ac maent yn llwyfan pwysig i gynhyrchwyr sy'n dymuno cynyddu gwerthiant mewn marchnad cynyddol gystadleuol.
Mae tua 40-50 o wyliau yn derbyn cymorth bob blwyddyn o'r rhaglen grant Gwyliau Bwyd, a ariannir gan Lywodraeth Cymru. Derbyniodd tua 49 gŵyl gymorth grant yn 2010/11.
Dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd: "Bob blwyddyn mae gwyliau bwyd yng Nghymru'n cyfrannu miliynau o bunnau i'r economi ac maent yn elfen allweddol wrth hyrwyddo diwylliant bwyd cynyddol Cymru a rhoi 'naws o le' i ymwelwyr.
"Boed yn fawr neu fach, mae gan bob gŵyl ei chymeriad arbennig ei hun, ond gydag un llinyn cyffredin - tynnu sylw'r cyhoedd at yr amrywiaeth wych o fwydydd a diodydd a gynhyrchir yng Nghymru."
Dengys canfyddiadau gwerthusiad dwy-flynedd o wyliau bwyd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ac a gynhaliwyd gan Miller Research, iddynt ddenu tua 650,000 o ddefnyddwyr gydag ymwelwyr i'r gwyliau'n gwario £20 yr un ar gyfartaledd.
Mae hyn yn gyfwerth â £7m mewn gwariant uniongyrchol gydag amcangyfrif o £42 miliwn o wariant ychwanegol dros ddwy flynedd yn y cymunedau lle cynhelir y gwyliau gan olygu fod gwerthiant ychwanegol yn uniongyrchol gysylltiedig â gwyliau oddeutu £50 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd.
Bu tua 500 o gynhyrchwyr - llawer ohonynt yn enillwyr gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas - yn cefnogi gwyliau yn 2010/11, gan ddweud eu bod wedi sicrhau 32% o'u gwerthiant blynyddol ar gyfartaledd fel canlyniad i fynychu gwyliau.
Caiff ceisiadau eu hadolygu gan dîm yn cynnwys cynrychiolwyr o Is-adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad Llywodraeth Cymru a Chroeso Cymru, gyda phob cais yn cael ei ystyried ar ei haeddiant ac yng ngoleuni'r cyllid sydd ar gael. Cyhoeddir y canlyniadau yn yr wythnos yn dechrau 19 Mawrth yn dilyn ymgynghoriad gyda'r Panel Bwyd a Ffermio.
Bu nifer o newidiadau sylweddol eleni i’r meini prawf ar gyfer ariannu gwyliau bwyd. Cafodd y meini prawf eu tynhau oherwydd cyfyngiadau cyllideb a nifer fwy o ymgeiswyr.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr yn awr gyflwyno cynllun busnes a chyfrifon fel rhan o'r broses gais, ac mae’n rhaid i weithgaredd bwyd fod yn greiddiol i'r holl ddigwyddiadau a gefnogir. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Chwefror 2012.
Bydd y broses werthuso hefyd yn edrych ar nifer o elfennau eraill, yn cynnwys hyrwyddo diwylliant bwyd Cymru, budd yr ŵyl i'r gymuned leol, y budd economaidd lleol, a sut mae'r digwyddiad yn cyflawni nodau ac amcanion Strategaeth Fwyd i Gymru