Bydd gwasael draddodiadol yn croesawu a dymuno iechyd da i gnydau afal a gellyg 2012 y mis yma wrth i Gymdeithas Peri a Seidr Cymru gynnal digwyddiad cyhoeddus cyntaf y flwyddyn ym Melin Seidr Rhaglan, Sir Fynwy.
Ar yr 28ain Ionawr mae’r digwyddiad blynyddol yn cyfeirio at seremoni sy’n cynnwys canu ac yfed i iechyd coed gan obeithio y byddant yn ffynnu. Pwrpas gwasael yw deffro’r coed afal seidr a chodi ofn ar ysbrydion drwg a’u gyrru ymaith er mwyn sicrhau cynhaeaf da o ffrwyth yn yr hydref.
Yn ymuno â Chymdeithas Peri a Seidr Cymru yn eu dathliadau fydd y Widders, dawnswyr Morris o Gas-gwent sy’n rhan annatod o draddodiad y wasael. Byddant yn arwain y dathliadau yn y canu a’r dawnsio traddodiadol, a bydd Cadeirydd y WPCS Dave Matthews yn arwain y seremoni yn ‘Fwtler y Wasael’.
Meddai Cressida Slater, Swyddog Datblygu Cymdeithas Peri a Seidr Cymru: “Mae traddodiad y wasael yn ffordd wych o wneud y gymuned gyfan yn rhan o’r broses o wneud seidr ar gyfer y tymor canlynol. Mae’n arfer hyfryd a ddathlwyd am ganrifoedd, ac mae Cymdeithas Peri a Seidr Cymru yn annog ei ddathlu bob blwyddyn.”
“Mae cynnal traddodiad yn bwysig iawn yn y diwydiant seidr, gan fod y rhan fwyaf o’r cynhyrchwyr seidr llai yn dal i ddefnyddio dulliau traddodiadol iawn i wneud eu seidr. Mae’n bwysig iawn hefyd ein bod yn cyflwyno cymunedau lleol i seidr a pheri lleol, a rhannu’r arferion sy’n mynd gyda’r diodydd gwlad hyn.”