Cyfrif y dyddiau at 10fed Pen-Blwydd Gwobrau Bwyd A Diod Cymru Y Gwir Flas

- Llywodraeth Cymru

Dim ond cwpl o ddyddiau sydd ar ôl tan y digwyddiad y mae’r edrych ymlaen mwyaf ato yng nghalendr bwyd a diod Cymru – Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2011-12.
Mae’r gwobrau blynyddol, a drefnir gan Lywodraeth Cymru, yn dathlu eu degfed pen-blwydd, ac fe’u cynhelir mewn cysylltiad gyda llaethdy organig blaenllaw Rachel’s.
Sefydlwyd y Gwobrau i ddathlu a rhoi sylw i ragoriaeth yn y sectorau bwyd, diod a lletygarwch, a chreu ymwybyddiaeth o ansawdd a’r ystod cynnyrch a gwasanaethau yng Nghymru.
Mae’r seremoni yn teithio o amgylch Cymru, ac eleni fe’i cynhelir  yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau, 20 Hydref, lle datgelir enwau enillwyr y categorïau.
Cyflwynwyr y seremoni fydd Jason Mohammed, cyflwynydd BBC Wales a Heledd Cynwal, cyflwynydd S4C.
Dywedodd Jason, “Dros y deng mlynedd ddiwethaf bu Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas yn arddangosfa bwysig ar gyfer ein cynhyrchwyr a’n cynnyrch, ac rwy’n falch iawn bod yn rhan o ddigwyddiad pen-blwydd y gystadleuaeth.
“Fel gohebydd a chyflwynydd, rwyf wedi rhoi sylw i lawer o straeon am uchelfannau – ac weithiau iselfannau – cynhyrchwyr bwyd Cymru. Rwyf bob amser yn cael fy synnu gan ansawdd a phoblogrwydd cynyddol ein bwyd a’n diod.”
Meddai Heledd, “Rwy’n credu’n gryf mewn cefnogi cynnyrch a busnesau lleol. Rwy’n byw yn Llandeilo, sydd ag amrywiaeth wych o siopau bwyd a chynnyrch, ac rydych yn dod i adnabod y bobl a’r ffordd y maent yn gweithio.
Caiff cinio’r Gwobrau ei baratoi gan y tîm mewnol yn Venue Cymru dan arweiniad yr uwch chef, Rob Lawton.
Bydd seremoni Gwobr y Gwir Flas yn rhoi cyfle prin i grŵp o fyfyrwyr lletygarwch ac arlwyo Coleg Llandrillo Cymru gael profiad o weithio mewn digwyddiad mor swmpus a sylweddol.
Bydd tua 12 i 14 o’r myfyrwyr yn gweithio yn y coleg wrth ochr y staff proffesiynol, ac eraill yn ymwneud â gweini a gwasanaeth blaen tŷ dan oruchwyliaeth staff darlithio’r Coleg.
Mae 16 categori yn y gwobrau, sydd â beirniaid annibynnol ac sy’n anelu i ddarparu ar gyfer pob maes o’r sectorau cynhyrchu bwyd a diod, manwerthu a lletygarwch.
Eleni derbyniwyd 1,017 cynnig gan 366 cwmni yn yr holl gystadleuaeth, gan gwmnïau bach a mawr ar draws Cymru.
Dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd: “Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas wedi tyfu mewn poblogrwydd a statws flwyddyn ar flwyddyn, a chânt eu cydnabod yng Nghymru a thu hwnt fel marc o ansawdd ac amrywiaeth y cynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir gan y diwydiant yng Nghymru.
 

Latest Tweets by the Fork2Fork Team