Cynnyrch gwych o Gymru y Pasg hwn

 

Beth am ddechrau'r gwyliau gyda thipyn o steil a chymryd y cam cyntaf i gefnogi cynhyrchwyr lleol trwy fwyta bwyd o Gymru eleni.
 
Mae gan Gymru restr hir o gwmnïau bwyd a diod llwyddiannus o bob rhan o'r wlad.  Rhowch gynnig ar yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig a chael blas ar wledd dymhorol a thraddodiadol.
 
O deisennau'r Groglith cynnes a blasus o dan drwch o fenyn Cymreig i bysgod, cig a llysiau wedi'u tyfu a'u magu gartref, mae yma rywbeth at ddant pawb.
 
Galwodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd, Alun Davies, ar bobl Cymru i brynu cynnyrch lleol, gan ddweud:
 
"Y Pasg yw'r amser perffaith i droi dalen newydd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Eleni beth am fynd am fwyd a diod o Gymru?
 
"Trwy brynu a bwyta cynnyrch o Gymru, rydych yn gwneud eich rhan i helpu'r economi, ac yn helpu'r amgylchedd hefyd.  Trwy gefnogi'r cannoedd o fusnesau bach yng Nghymru sy'n cynnig bwyd o'r radd flaenaf, rydych yn helpu i gadw pobl leol yn eu gwaith ac yn lleihau pellter y daith o'r pridd i'r plât.  Ac anodd fyddai cael bwyd mwy ffres.
 
"Mae'r brand Cymru: Y Gwir Flas yn golygu blas ac ansawdd ac mae Gwobrau'r Gwir Flas yn helpu'r cyhoedd i adnabod y cynnyrch gorau a'u hannog i roi cynnig ar fwyd a diod gwahanol.  Mae gwefan Cymru: Y Gwir Flas yn lle gwych i bobl ddysgu am gynnyrch Cymru, ble i'w gael a llefydd bwyta."

Latest Tweets by the Fork2Fork Team