Marchnad Ffermwyr Hwlffordd – yn wythnosol erbyn hyn

- Western Telegraph

Am y tro cyntaf, mae’r Farchnad Ffermwyr arobryn yn Hwlffordd yn cael ei chynnal yn wythnosol.
O’r mis yma, cynhelir y farchnad bob dydd Gwener o 9am tan 3pm yng nghanolfan siopa Glan yr Afon, yn hytrach na phob pythefnos.
Dywedodd rheolydd y farchnad Kate Morgan, swyddog bwyd i Gyngor Sir Penfro, fod y symudiad yn arbrawf i ymateb i alwadau cynyddol gan fasnachwyr a siopwyr.

"Mae’r farchnad yn boblogaidd iawn ac fe fu llawer o ddiddordeb yn ei chynnal bob wythnos," meddai. "Mae siopwyr yn hoffi cysondeb ac mae llawer ohonyn nhw wedi dweud y bydden nhw’n cefnogi marchnad wythnosol yn Hwlffordd. Mae’n newyddion da i fasnachwyr hefyd, gan y gallent werthu hyd at ddwbl eu cynnyrch."

Cynhelir yr arbrawf tan ddiwedd Medi, ac wedyn bydd yn cael ei asesu gan bwyllgor y farchnad.
Fe fydd ambell wyneb newydd ymhlith y gwerthwyr arferol, y mae eu cynnyrch yn amrywio o gig a bwyd môr lleol i gynnyrch pob ffres, caws gwlad, wyau buarth a chyffeithiau cartref.

Dywedodd Kate Morgan fod yna duedd cenedlaethol tuag at farchnadoedd ffermwyr yn cael eu cynnal yn amlach.

"Mae llawer o farchnadoedd wedi bod yn wythnosol ar draws y wlad ac fe fu’n symudiad da iddyn nhw," meddai. "Mae’n gwneud synnwyr hefyd i roi cynnig arni dros yr haf, gan fod cymaint o gynnyrch ffres arbennig ar gael, fel cnydau salad, llysiau ffres a ffrwythau meddal."

Mae Marchnad Ffermwyr Hwlffordd yn cynnwys 30 o gynhyrchwyr lleol o Sir Benfro a gorllewin Cymru. Sefydlwyd y farchnad yn 1999, a hi oedd yr ail Farchnad Ffermwyr i gael ei hagor yng Nghymru. Hi oedd y gyntaf yn y wlad i gael ei hardystio, sy’n golygu ei bod yn Farchnad Ffermwyr yng ngwir ystyr y gair. Roedd y farchnad yn farchnad ffermwyr FARMA ac yn enillydd medal aur adwerthu Gwir Flas ar gyfer 2005/06, yn enillydd rhanbarthol FARMA yn 2006/07 a chipiodd ail le yng ngwobrau marchnad ffermwyr wledig y flwyddyn FARMA yn 2009.

 

Latest Tweets by the Fork2Fork Team