Marchnad ffermwyr organig i ddathlu diwrnod ewrop

 

Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Organig Cymru wedi mynd ati ar y cyd i drefnu marchnad ffermwyr yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth er mwyn dathlu Diwrnod Ewrop ar 9 Mai 2012. Bydd y farchnad, a fydd ar agor o 12:00pm hyd 05:00pm, yn arddangos rhai o’r cynnyrch organig a lleol gorau yng Ngorllewin Cymru gan gynnwys ffrwythau a llysiau, madarch shitake, wyau, cyffeithiau, blawd, bara a chacennau.

Caiff y farchnad ei hariannu gan y prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig sy’n creu cyfleoedd ac yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer busnesau o fewn sector organig Cymru fel y gallant wneud rhagor o elw a chyflawni cynaliadwyedd a pherfformiad amgylcheddol rhagorol. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn gwerth £2 filiwn o gyllid oddi wrth Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies: “Mae cefnogi bwydydd a ffermio cynaliadwy yng Nghymru yn hollbwysig i economi ein cefn gwlad. Nod y prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organic yw cynorthwyo busnesau o fewn y sector organig i wella a ffynnu. Mae Marchnadoedd Ffermwyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o dynnu sylw at y cynnyrch lleol ac organig y gall y busnesau Cymreig hyn eu cynnig.

“Mae Marchnadoedd Ffermwyr yn dwyn y gymuned ynghyd ac yn cyfrannu at hunaniaeth ddiwylliannol ardal, sy’n denu twristiaid. Dyma enghraifft berffaith o’r modd y gallwn elwa ar gyllid Ewropeaidd a sut y mae’n helpu i greu cymunedau lleol cadarn a chefnogi’r economi wledig yng Nghymru.”

Dywedodd Tony Little, sy’n trefnu’r farchnad ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru; “Dyma gyfle gwych i ddangos y cynnyrch sydd ar gael yn lleol. Trwy gynnal y farchnad y tu allan i’r dref yn ystod yr wythnos rwy’n gobeithio cyrraedd y bobl nad ydynt gam amlaf yn dod i’r farchnad a gaiff ei chynnal ar ddau ddydd Sadwrn ymhob mis  yng nghanol y dref. Rwyf hefyd yn gobeithio dangos i’r cynhyrchwyr fod galw mawr am eu cynnyrch organig ffres a hoffwn weld pawb sy’n dod i’r farchnad yn dysgu ychydig mwy am yr hyn a olygwn wrth organig.”

Cred Anne Evans o Fferm Blaencamel, a fydd yn dod i Farchnad y Ffermwyr, fod gan farchnadoedd ffermwyr gryn botensial. Maent yn helpu pobl i fwyta’n lleol, yn iach ac yn unol â’r tymhorau. Mae hyn oll yn rhoi cryn hwb i’r economi leol. Gall ymwelwyr â’r ardal fwynhau cyfle amlwg a lliwgar i brofi’r bwydydd bendigedig a gaiff eu cynhyrchu yng Ngheredigion. Eto i gyd, rhaid peidio â thrin Marchnadoedd Ffermwyr fel digwyddiadau arbennig, eithr fel rhan arferol o batrwm siopa wythnosol pawb, er mwyn newid ein diwylliant siopa a bwyd. 

Latest Tweets by the Fork2Fork Team