Newyddion

Marchnadoedd twf y Dwyrain Canol yn denu cynhyrchwyr Cymru i Gulfood 2012

 

Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sy'n dymuno manteisio ar y farchnad dwf yn y Dwyrain Canol yn paratoi i fynd i Dubai ar gyfer digwyddiad masnach arbenigol allweddol yr ardal - Gulfood 2012 (19-22 Chwefror 22).
 
Bydd chwe chwmni o Gymru yn arddangos yn Gulfood 2012: Hybu Cig Cymru, Llanllyr Mineral Water, Rachel’s Organic, Real Crisp Company, The Abergavenny Fine Food Company, a Trioni Cyf.
 
Byddant yn rhan o Bafiliwn Cymru y Gwir Flas a noddir gan Lywodraeth Cymru yn y sioe, a gynhelir yng Nghanolfan Gonfensiwn ac Arddangosfa Ryngwladol Dubai.
Mae llawer o'r cwmnïau wedi derbyn tlysau yng Ngwobrau Cymru Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas, ac mae nifer eisoes wedi sefydlu presenoldeb gyda manwerthwyr blaenllaw ym marchnad y Dwyrain Canol.
 
Hon yw'r wythfed flwyddyn yn olynol y bu gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb yn y digwyddiad, a ddenodd dros 62,000 o ymwelwyr domestig a rhyngwladol yn 2011.
Cymerodd bron 4,000 o arddangoswyr o 107 o wledydd ran y llynedd gydag ymwelwyr yn cynnwys prynwyr o'r sector manwerthu, y sector awyrennau a'r sector cyhoeddus, yn ogystal â pherchnogion bwytai, gwestai, mewnforwyr a dosbarthwyr.
 
Yr Emiraethau Arabaidd Unedig (UAE) yw prif farchnad allforio bwyd a diod y Deyrnas Unedig yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica gydag allforion o dros £109 miliwn yn 2010 - cynnydd o dros 22% ar 2009.
 
Mae ffactorau megis poblogrwydd y wlad fel cyrchfan dwristiaeth a phoblogaeth gynyddol - yn cynnwys cymuned o 120,000 o Brydeinwyr oddi cartref - yn ei gwneud yn farchnad bosibl bwysig i gynhyrchwyr Cymru.
 

Latest Tweets by the Fork2Fork Team

Find us on Facebook