Gallai digwyddiad ‘cwrdd cyflym’ ar gyfer cynhyrchwyr bwyd arwain at gydweithio delfrydol, yn ôl cefnogwyr Canolfan Fwyd Cymru newydd Bodnant. Gwahoddir darpar gyflenwyr bwyd lleol i roi cyflwyniadau yng Nglasdir, Llanrwst ar ddydd Mawrth a dydd Mercher Ionawr 24-35.
Bydd gwasael draddodiadol yn croesawu a dymuno iechyd da i gnydau afal a gellyg 2012 y mis yma wrth i Gymdeithas Peri a Seidr Cymru gynnal digwyddiad cyhoeddus cyntaf y flwyddyn ym Melin Seidr Rhaglan, Sir Fynwy.
Mae Nigel Jefferies yn awyddus i annog mwy o bobl i brynu caws gafr o Gymru. Dywed fod pobl yn tueddu meddwl am gaws gafr yn gynnyrch nodweddiadol o Ffrainc, ond mae Cymru’n gwneud rhai o’r cawsiau gorau.