Mae datblygu marchnadoedd newydd yn ystod dirwasgiad yn anodd ond nid yn amhosib yn ôl y cigydd o Gonwy Ieuan Edwards. Sefydlwyd ei gwmni ef yng Nghonwy bron i 30 mlynedd yn ôl ac mae’n dal i ffynnu er gwaetha’r hinsawdd economaidd heriol. Mae ei frand, Edwards o Gonwy, a’i is-gwmni, The Traditional Welsh Sausage Co, yn gobeithio datblygu cyfleoedd yn y Dwyrain Pell.
Yn ddiweddar llofnododd gontract i allforio ei selsig Cymreig i brifddinas Malaysia, Kuala Lumpur. Oherwydd maint yr archeb byddant yn cael eu danfon ar long mewn cynhwysydd – hyd yn hyn cafodd archebion eu hedfan draw ar baledi.
Ddydd Mawrth nesaf bydd Mr Edwards, 49 o Lanrwst, yn amlinellu rhai o’i gyfrinachau busnes mewn seminar a drefnwyd ar gyfer cynhyrchwyr bwyd Conwy sy’n awyddus i ychwanegu at eu contractau cyflenwi. Meddai: “Mae datblygu cyfleoedd busnes yn ystod hinsawdd economaidd cythryblus yn gallu bod yn anodd, ond nid yn amhosib. Byddaf yn pwysleisio pwysigrwydd cadw cwsmeriaid gwerthfawr, ychwanegu gwerth at y cynnyrch craidd, hyrwyddo gwasanaeth da i gwsmeriaid ac yn bennaf oll, selio’r fargen gyda darpar gwsmeriaid newydd.”
Mae Mr Edwards yn un o dri “llysgennad bwyd” fydd yn cynnig eu harbenigedd yn y digwyddiad busnes (“Cynhyrchwyr Bwyd: sut i gyflenwi’r sectorau cyhoeddus a phreifat”) ar ddydd Mawrth, Ionawr 10, 7pm yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst.