Newyddion

Sut i gael eich troed yn y drws

 

Bydd yr arwr bwyd o Gymru Conrad Davies yn cynnig blas o’r hyn sydd ei angen i lwyddo yn y farchnad i gynhyrchwyr bwyd mewn cynhadledd fwyd y mis hwn. Bydd yn gweini ei rysáit ei hun ar gyfer llwyddo i gynhyrchwyr bwyd o bob rhan o ogledd ddwyrain Cymru yng Ngwesty Northop Hall ar ddydd Mawrth, Ionawr 31, yn dechrau am 5:30pm.
Bydd y Lladmerydd Gwir Flas, sy’n rhedeg siopau yn Nolgellau, Pwllheli a Blaenau Ffestiniog, hefyd yn chwilio am gynhyrchwyr bwyd diddorol. Meddai: 
“Rydan ni wastad yn chwilio am gyflenwyr newydd. Ond mae’n farchnad gystadleuol iawn: mae’n rhaid iddyn nhw fod yn wahanol, mae’n rhaid i’r ansawdd fod yn iawn ac mae’n rhaid iddyn nhw fod yn gystadleuol ar eu pris. Mae angen i gynhyrchwyr fynd allan i’r byd a’r betws, mae angen iddyn nhw ddod i leoedd fel ein siopau ni a meithrin perthnasoedd.”
Mae Cynhadledd Fwyd Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei threfnu gan y mudiadau adfywio gwledig Cadwyn Clwyd a Northern Marches Cymru gydag arian RDP. Mae’r gynhadledd yn agored i gynhyrchwyr a busnesau o bob rhan o’r gogledd ddwyrain, ac mae’n ceisio dangos i’r cynadleddwyr sut i ddod o hyd i farchnadoedd a siopau newydd.. Yn ogystal â Conrad Davies, mae’r prif siaradwyr yn cynnwys Lawrence Washington, o Fragdy Mws Piws ym Mhorthmadog, a’r arbenigwyr marchnata Amanda Daniels o Koogar Digital Marketing, a Russell Ferguson, o raglen mentora Gwir Flas.
 
Dylai unrhyw un sy’n awyddus i ddod i’r gynhadledd, sy’n cynnwys bwffe rhad ac am ddim, gysylltu â Caroline Dawson yn Northern Marches Cymru ar 01978 298384 neu caroline.dawson@wrexham.gov.uk erbyn dydd Mercher, Ionawr 25.
 
 
 

Latest Tweets by the Fork2Fork Team

Find us on Facebook