-Tivyside Advertiser
Mae Gwyl Fwyd & Chrefftau’r Frenni wedi datblygu yn un o’r digwyddiadau pwysicaf yn y calendr lleol, ac eleni bydd yn dathlu ei degfed pen-blwydd mewn steil gyda choginio, cerddoriaeth a dawnsio traddodiadol o Ploveilh, gefaill bentref Crymych yn Llydaw.
Mae’r wyl wedi rhoi pwyslais ar gynnyrch lleol o’r cychwyn cyntaf. Bydd bwyd a diod o bob math ar gael, gan gynnwys cig, caws, bara, mêl, gwin, pysgod, llysiau organig, cwrw a hufen ia lleol, a bydd arddangosiadau coginio yn rhoi syniadau ar sut i greu seigiau blasus.
Ein chef preswyl eleni fydd Anthony Evans, sy’n ymddangos ar ei raglen goginio ei hun ar S4C. Bydd yn cyflwyno pum arddangosiad coginio o 1pm.
Yn ogystal â’r arddangosiadau coginio ffurfiol fe fydd cyfle hefyd i weld enillwyr eleni yng nghystadleuaeth goginio Ysgol y Preseli wrth eu gwaith yn atgynhyrchu eu bwydlen fuddugol. Bydd cystadleuaeth i ysgolion cynradd hefyd yn cael ei chynnal eleni, gyda chyfle i ennill offer coginio gwerth £40 a Tharian werthfawr Cogydd Gorau Gwyl Fwyd y Frenni.
Dylai unrhyw gynhyrchydd bwyd sydd eisiau mynd i’r wyl fynd ar-lein i www.crymych.org i gael ffurflen gais.