Mae’r tîm sydd y tu ôl i farchnad ffermwyr lwyddiannus a’i fryd ar ail-greu un o’r gwyliau bwyd a diod hynaf yng Ngogledd Cymru.
Bydd 14eg wŷl fwyd flynyddol Llangollen yn ailadrodd llwyddiant y blynyddoedd o’r blaen, gyda chyfraniad cryfach o’r gymuned a thrwy gydnabod yr awydd cynyddol am fwyd cartref symlach, meddai’r trefnwyr.
Bydd mwy o bwyslais yng ngŵyl ddeuddydd Basged Fwyd Llangollen 2011 (15 a 16 Hydref) ar fwydydd a chrefftau traddodiadol megis cadw gwenyn, tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hunan a gwneud jam, siytni a phicl.
Bydd tua 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod yn tynnu dŵr o’r dannedd ym Mhafiliwn Cydwladol Brenhinol y dref a bydd Dudley Newbery, y cogydd teledu, yno hefyd i gynnal arddangosfeydd a gweithdai.
Bydd gwŷl gwrw’n cael ei chynnal mewn tafarndai ledled Llangollen yr un pryd i annog ymwelwyr i gerdded y dref.
Pobl fusnes lleol, arweinwyr cymunedol a rhai o’r sector cyhoeddus sydd ar y Pwyllgor Llywio.
Cadeirydd y Pwyllgor yw Colin Loughlin, o Megan's Kitchen, cwmni o Langollen sy’n gwneud teisennau cri a bara brith a’r Is-gadeirydd yw’r Cynghorydd Rhys Hughes, Aelod o Gyngor Sir Ddinbych.
Cynrychiolwyr y Pafiliwn Cydwladol Brenhinol, yr asiantaeth adfywio wledig Cadwyn Clwyd a Chyngor Sir Ddinbych yw’r rhai eraill sydd ar y Grŵp Llywio.
Mae Colin yn un o dîm o bobl a pherchnogion busnesau lleol sy’n gefn i farchnad ffermwyr lwyddiannus Llangollen sy’n dathlu ei phen-blwydd cyntaf y mis hwn.
Meddai: "Roeddwn i eisiau cymryd rhan; mae’n wŷl mor dda. Mae’n denu dros 8,000 o bobl mewn dau ddiwrnod ac mae’n cael ei chynnal yn y lle gorau y gallech chi ei gael yn unman.
"Mae yna gymaint o gynhyrchwyr yn yr ardal sy’n cynnig bwyd a diod gwych. Maen nhw’n haeddu digwyddiad fel hwn i ddangos yr hyn sydd ganddyn nhw ac i’w gwerthu i’r cyhoedd.
"Mae pobl y dref wedi ein cefnogi gyda’r marchnadoedd ac mi wn i y byddan nhw yn gefn i ni hefyd yn yr wŷl yma hefyd.
"Denodd yr wŷl fwy na 8,000 o bobl y llynedd a gallwn ddenu cymaint â hynny eleni hefyd, os nad mwy. Mae digwyddiad hynod o lwyddiannus o’n blaenau.
Bydd Basged Fwyd Llangollen 2011 yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 15 a dydd Sul 16 Hydref, o 10am tan 5pm y ddau ddiwrnod. £5 yw pris tocynnau o oedolion. Bydd plant (o dan 16) yn cael mynd i mewn am ddim. www.llangollenfoodfestival.com
Mae yna rai mannau gwag i gynhyrchwyr bwyd a diod yn dal ar ôl. Cewch fwy o wybodaeth gan Vicky Shenton-Morris o Bafiliwn Llangollen ar 01978 861000 neu gan Robert Price yn Cadwyn Clwyd ar 01824 705802.